Canmoliaethau a Chwynion
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn ffordd deg, barchus, a thryloyw.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn ffordd deg, barchus, a thryloyw. Mae eich adborth – boed yn gadarnhaol neu’n feirniadol – o gymorth i ni wella’r hyn a wnawn a chydnabod arferion da.
Os hoffech rannu adborth cadarnhaol, neu os ydych yn anhapus gyda gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn, rydym yn eich annog i gysylltu â ni.
Rhoi Canmoliaeth
Os ydych wedi derbyn gwasanaeth a wnaeth fodloni eich disgwyliadau neu ragori arnynt, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.
Rhennir canmoliaeth gyda staff a thimau, ac mae hyn o gymorth i ni gydnabod gwaith da a hybu arferion gorau ledled ein gwasanaethau.
Sut i roi canmoliaeth
Anfonwch e-bost at: cwynion@conwy.gov.uk
Gwneud Cwyn
Os oes rhywbeth wedi mynd o’i le neu’r ydych yn anfodlon gyda gwasanaeth a ddarparwyd gan Ganolfan Derbyn Larymau Conwy, gellwch wneud cwyn swyddogol.
Ymdrinnir â phob cwyn yn unol â Gweithdrefn Gwyno Gorfforaethol Conwy, sy’n nodi:
- Sut mae cwynion yn cael eu derbyn a’u prosesu
- Sut yr ymchwilir iddynt
- Amseroedd ymateb disgwyliedig
- Beth ellwch ei wneud os ydych yn dal i fod yn anfodlon
Polisi a Chanllawiau Cwynion Cyhoeddus 2024
Rydym yn cymryd pob cwyn o ddifrif. Bydd cwynion yn cael eu monitro a’u hadolygu i’n helpu i ddysgu o adborth a gwella ein gwasanaethau.
Sut i wneud cwyn
Anfonwch e-bost at: cwynion@conwy.gov.uk
Cysylltwch â ni
Eisiau holi cwestiwn neu oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi? Rydym ni yma i’ch helpu chi!
Pam Ddylech Chi Ein Dewis Ni?
Eich Partner Dibynadwy o ran Diogelwch
- Ardystiad uchaf: Categori 1 NSI Aur (EN 50518).
- Cydnabyddiaeth gan yr heddlu ac yswirwyr.
- Atebolrwydd y sector cyhoeddus.
- Darpariaeth ranbarthol: Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr.
- Cyfleuster “byncer” cadarn a modern sydd â mannau cymdeithasol a mannau ar gyfer lles gweithredwyr.
- Monitro yn y gymuned yn cynnwys mewn ysgolion, ysbytai, tai, priffyrdd a mannau cyhoeddus.